Neidr ddefaid

Slow-worm

©Bruce Shortland

Slow worm pair mating

©D.A. Trebilco

slow worm

Jim Higham

Neidr ddefaid

Er gwaethaf ei hymddangosiad, madfall heb goesau yw'r neidr ddefaid mewn gwirionedd, nid pryf genwair na neidr! Cadwch lygad amdani’n torheulo yn yr haul ar rostiroedd a glaswelltiroedd, neu yn yr ardd hyd yn oed, lle mae'n ffafrio tomenni compost.

Enw gwyddonol

Anguis fragilis

Pryd i'w gweld

Mawrth i Hydref

Species information

Ystadegau

Hyd: 40-50cm
Pwysau: 20-100g
Oes ar gyfartaledd: up to 20 years
Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Ynghylch

Nid yw'r neidr ddefaid yn bryf genwair nac yn neidr, madfall heb goesau ydi hi – mae’n bosib ei hadnabod ar sail ei galluoedd i fwrw ei chynffon a blincio gyda'i hamrannau.

Gellir dod o hyd i nadroedd defaid ar rostir ac mewn glaswelltir twmpathog, ymylon coetir a llennyrch lle gallant ddod o hyd i infertebrata i'w bwyta a llecyn heulog i dorheulo. Maent i'w gweld yn aml mewn gerddi aeddfed a rhandiroedd, lle maent yn hoffi hela o amgylch y domen gompost. Fodd bynnag, os oes gennych chi gath, mae'n annhebygol y byddwch yn dod o hyd iddynt yn eich gardd gan fod cathod yn eu dal. Fel ymlusgiaid eraill, mae nadroedd defaid yn gaeafgysgu, o fis Hydref i fis Mawrth fel rheol.

Sut i'w hadnabod

Mae'r neidr ddefaid yn llawer llai na neidr ac mae ganddi groen llyfn, llwyd euraidd. Mae'r gwrywod yn fwy gwelw o ran lliw, gyda smotiau glas weithiau, ac mae’r benywod yn fwy, gydag ochrau tywyll a streipen dywyll i lawr y cefn.

Dosbarthiad

Maent i’w canfod ledled y wlad, ac eithrio'r rhan fwyaf o ynysoedd yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r rhan fwyaf o Ynysoedd y Sianel.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae'r tymor paru ar gyfer nadroedd defaid yn dechrau ym mis Mai ac mae’r gwrywod yn ymosod ar ei gilydd. Yn ystod y garwriaeth, mae'r gwryw yn gafael yn y fenyw drwy frathu ei phen neu ei gwddw, ac maen nhw'n cydblethu eu cyrff. Gall y garwriaeth bara am hyd at 10 awr! Mae’r benywod yn deor yr wyau yn fewnol, gan 'roi genedigaeth' i wyth o nadroedd bach ar gyfartaledd yn ystod yr haf.