Ymunwch heddiw a gofalwch am fywyd gwyllt Cymru
Drwy aelodaeth byddwch yn ein galluogi i adfer caeau sych yn ddolydd llawn bywyd gwyllt, helpu rhywogaethau sy’n wynebu difodiant i ffynnu eto a rhoi llais pwerus i fyd natur.
Dyma beth fyddwch chi'n ei dderbyn:
- Blaenoriaeth archebu ar gyfer aros dros nos ar Sgomer ac Ynys Sgogwm.
- Mynediad am ddim i’n holl warchodfeydd natur (ac eithrio Sgomer ac Ynys Sgogwm).
- Parcio am ddim yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru.
- Ein cylchgrawn aelodaeth, Eich Cymru Wyllt, deirgwaith y flwyddyn.
- Gydag Aelodaeth Teuluol mae plant yn ymuno â Gwylio Bywyd Gwyllt yn awtomatig ac yn derbyn eu cylchgronau eu hunain yn llawn newyddion, crefftau, cystadlaethau a phosau bywyd gwyllt. Byddant yn cael pecyn croeso llawn sticeri a phosteri, llawlyfrau a mwy.
- Sticer car a diweddariadau e-bost rheolaidd.
Pecynnau Aelodaeth
Porwch ein pecynnau aelodaeth isod i ddod o hyd i'r un gorau i chi!
- Aelodaeth unigol - ar gyfer unigolion (yn seiliedig yn y DU).
- Joint membership - for couples (based in UK).
- Aelodaeth deuluol - ar gyfer rhiant(rhieni) a phlant o dan 16 oed (yn y DU). Mae plant yn awtomatig yn dod yn aelodau Gwylio Bywyd Gwyllt ac yn derbyn eu cylchgronau eu hunain
- Aelodaeth iau - ar gyfer plant dan 12 (yn seiliedig yn y DU).
- Aelodaeth gymdeithion - ar gyfer clybiau a grwpiau (yn y DU).
- Aelodaeth ysgol - ar gyfer ysgolion a cholegau (wedi'u lleoli yn y DU).
- Aelodaeth dramor - i unigolion neu gyplau sy’n byw y tu allan i’r DU. Bydd y ffurflen aelodaeth hon yn eich galluogi i fewnbynnu eich cyfeiriad yn gywir fel y gallwn anfon ein cylchgrawn aelodaeth atoch.
-
Aelodaeth Cyfeillion yr Ynysoedd - mae'r mudiad hwn yn cefnogi Sgomer ac Ynys Sgogwm trwy wirfoddoli a rhoddion. Gallwch ddod yn aelod o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a Chyfeillion yr Ynysoedd, neu dim ond Cyfeillion yr Ynysoedd.