Gwellt y gamlas

Gwellt y gamlas

Enw gwyddonol: Zostera marina
Mae'r rhywogaeth yma o forwellt yn fath o blanhigyn blodeuol sy'n byw o dan y môr, gan ddarparu cynefin pwysig i lawer o rywogaethau prin a rhyfeddol.

Species information

Ystadegau

Leaf: Usually 20-50cm long

Statws cadwraethol

Mae gwelyau morwellt yn Gynefin Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU ac yn Nodwedd o Bwysigrwydd Cadwraeth y gellir dynodi Parthau Cadwraeth Morol ar ei chyfer. Maent ar Restr OSPAR o Rywogaethau a Chynefinoedd Dan Fygythiad a/neu Sy'n Dirywio (dirywio yn Rhanbarth II – Môr y Gogledd a Rhanbarth III – y Môr Celtaidd, ac o dan fygythiad yn Rhanbarth V – Iwerydd Ehangach).

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Mae gwellt y gamlas yn rhywogaeth o blanhigyn (nid gwymon) sy'n byw ar y lan isel iawn hyd at 10m o ddyfnder a gall ffurfio dolydd morwellt trwchus. Mae’r dolydd hyn yn gynefinoedd tanddwr pwysig mewn moroedd bas, gan ddarparu cysgod i lawer o rywogaethau, gan gynnwys môr-feirch a phibellau môr. Maent hefyd yn darparu cynefinoedd meithrin pwysig ar gyfer pysgod bach, môr-gyllyll, pysgod cregyn a môr-gathod. Mae gwelyau morwellt yn tyfu ar welyau môr tywodlyd mewn dyfroedd bas iawn - gan fod arnynt angen lefelau da o olau ar gyfer ffotosynthesis. Maent yn tyfu mewn ardaloedd cysgodol, fel aberoedd, baeau a chilfachau. Mae morwellt yn ffynhonnell fwyd bwysig i lawer o adar sy'n gaeafu fel gwyddau. Mae gwellt y gamlas yn cael ei enw yn Saesneg, ‘eel-grass’, o'i ddail hir, tebyg i lysywod.

Sut i'w hadnabod

Hawdd ei adnabod - planhigyn tanddwr tebyg i laswellt, gyda dail gwyrdd tenau hir. Weithiau mae i’w weld wedi’i olchi i'r lan ar ôl stormydd.

Dosbarthiad

Dosbarthiad eang ond anghyson o amgylch y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae morwellt yn un o'r ychydig blanhigion go iawn sy'n byw yn y môr. (Math o algâu yw gwymon, nid planhigyn!) Planhigyn blodeuol yw gwellt y gamlas - yn cynhyrchu blodau niferus ac, yn y pen draw, yn cynhyrchu hadau. Mae ganddyn nhw risom hefyd - math o system wreiddiau danddaearol sy'n caniatáu i blanhigion newydd dyfu'n llystyfol.

Sut y gall bobl helpu

Mae angen gwarchod gwelyau morwellt bregus rhag gweithgareddau niweidiol er mwyn sicrhau bod y cynefin ei hun a’r rhywogaethau sy’n dibynnu arno yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Profwyd bod dynodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig o fudd i gynefinoedd a rhywogaethau gwely’r môr sy’n agored i niwed pan mae gweithgareddau niweidiol yn cael eu gwahardd. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn ymgyrchu dros ddynodi Parthau Cadwraeth Morol i warchod gwelyau morwellt a chynefinoedd eraill ar wely’r môr. Gallwch gefnogi ein hymgyrch drwy ddod yn Gyfaill Parthau Cadwraeth Morol yn wildtrusts.org/MCZfriends. Ledled y DU, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gyda defnyddwyr y môr, ymchwilwyr, gwleidyddion a phobl leol tuag at weledigaeth o Foroedd Byw lle mae bywyd gwyllt morol yn ffynnu. Gwnewch eich rhan dros Foroedd Byw drwy gefnogi eich Ymddiriedolaeth Natur leol neu edrychwch ar ein tudalennau Gweithredu.