
Paul Naylor
Gwichiad y gwymon
Mae’r malwod môr bach yma i’w canfod ymhlith y gwymon ar lannau creigiog o amgylch llawer o’r DU. Maent yn llawer o wahanol liwiau, o felyn llachar i frown brith!
Enw gwyddonol
Littorina obtusata/fabalisPryd i'w gweld
Ionawr i RhagfyrYnghylch
I’w canfod ymhlith y gwymon maent yn bwydo arno, mae gwichiaid y gwymon yn byw ar rannau isaf y traeth. Maent yn cael eu cysylltu yn fwyaf cyffredin â gwymon codog a gellir eu camgymryd am y pledrennau aer sy'n gwneud i'r gwymon arnofio.Maent yn llawer o wahanol liwiau, gan gynnwys oren, melyn llachar, brown rhesog a rhyw fath o wyrdd olewydd sy'n eu gwneud yn anodd eu gweld yn eu cartref o wymon.