Ystlum Daubenton

Daubenton's bat

©Dale Sutton/2020VISION

Ystlum Daubenton

Enw gwyddonol: Myotis daubentonii
Cadwch lygad am ystlumod Daubenton yn chwilio am fwyd uwch ben gwlybdiroedd ledled y DU yn y gwyll. Maen nhw’n hedfan yn gyflym ac yn hyblyg yn agos at wyneb y dŵr yn chwilio am bryfed yn ysglyfaeth.

Species information

Ystadegau

Length: 4.5-5.5cm
Wingspan: 24-27cm
Weight: 7-12g
Average lifespan: 4-4.5 years

Statws cadwraethol

Gwarchodaeth yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 198. Wedi'i rhestru fel Rhywogaeth Ewropeaidd a Warchodir o dan Atodiad IV o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd.

Pryd i'w gweld

Ebrill i Hydref

Ynghylch

Cyfeirir ato weithiau fel 'ystlum y dŵr', ac mae ystlum Daubenton yn chwilio am bryfed bach, fel gwybed, pryfed pric a chylion Mai, uwch ben y dŵr; gall ddefnyddio ei draed a'i gynffon i godi pryfed o wyneb y dŵr hyd yn oed wrth iddo chwilota. Mae ystlumod Daubenton yn clwydo ger dŵr, o dan bontydd neu mewn twneli, ac mewn tyllau mewn coed. Yn ystod yr haf, mae’r benywod yn ffurfio poblogaethau mamolaeth i gael eu hystlumod bach. Mae ystlumod Daubenton yn gaeafgysgu o dan y ddaear dros y gaeaf, mewn ogofâu, twneli a mwyngloddiau.

Sut i'w hadnabod

Mae ystlum Daubenton yn ystlum bach i ganolig ei faint, gyda ffwr brown, blewog, bol arian-llwyd golau, ac wyneb pinc.

Dosbarthiad

Eang.

Roeddech chi yn gwybod?

Gall ystlumod Daubenton fyw am hyd at 22 o flynyddoedd yn y gwyllt, ond mae'n debyg bod oes o 4 i 5 mlynedd ar gyfartaledd yn fwy cyffredin yn eu plith.