![Red Admiral butterfly](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-01/GED_09_070411_0092_0.jpg?h=759d80d8&itok=EE6J92ay)
Red Admiral ©Guy Edwardes/2020VISION
![Red Admiral](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-01/GED_09_070411_0091%20%28c%29%20Guy%20Edwardes%202020VISION.jpg?h=c087c481&itok=IxIs-7yh)
Red Admiral ©Guy Edwardes/2020VISION
Mantell goch
Enw gwyddonol: Vanessa atalanta
Mae'r fantell goch yn ymwelydd â'r ardd yn sicr. Gellir gweld y glöyn du a choch hardd yma yn bwydo ar flodau ar ddyddiau cynnes drwy gydol y flwyddyn. Mudwyr yw’r oedolion yn bennaf, ond mae rhai yn gaeafgysgu yma.
Species information
Ystadegau
Lled yr adenydd: 6.4-7.8cmStatws cadwraethol
Common.
Pryd i'w gweld
Ionawr i RhagfyrYnghylch
Yn löyn byw du, gwyn a choch gweddol fawr, mae’r fantell goch yn ymwelydd trawiadol â’n gerddi ni a gellir ei gweld yn bwydo ar goed mêl a blodau eraill. Bydd hefyd yn ymweld â phob math o gynefinoedd eraill, o lan y môr i fynyddoedd! Mae’r oedolion yn gaeafgysgu weithiau, a gellir eu gweld yn hedfan ar ddyddiau cynnes drwy gydol y flwyddyn, er eu bod yn fwyaf cyffredin yn yr haf a dechrau'r hydref. Mae'r lindys yn bwydo ar ddanadl poethion.Sut i'w hadnabod
Du yw'r fantell goch yn bennaf, gyda streipiau llydan, coch ar yr adenydd ôl a'r adenydd blaen, a smotiau gwynion ger blaen yr adenydd blaen.Dosbarthiad
Widespread.Roeddech chi yn gwybod?
Mae’r rhan fwyaf o’r mentyll coch yn fudwyr i’r DU o Ogledd Affrica a chyfandir Ewrop, gan gyrraedd yn y gwanwyn a dodwy wyau sy’n deor o fis Gorffennaf ymlaen. Ond mae rhai oedolion yn llwyddo i oroesi'r gaeaf drwy aeafgysgu yma.Sut y gall bobl helpu
Er mwyn denu glöynnod byw, fel y fantell goch, i'ch gardd, plannwch forderi llawn neithdar iddynt fwydo ar eu hyd ac eiddew dringol a llwyni ar gyfer pryfed sy'n gaeafu.Gwyliwch
Red admiral feeding on the ground © Tom Hibbert