![Common Blue](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-01/RHO_Arne_010911-3973.jpg?h=f8ba780b&itok=PnhslkEh)
Common Blue ©Ross Hoddinott/2020VISION
![Common Blue butterfly female](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-01/Common%20blue%20female%20cpt%20Amy%20Lewis.jpg?h=77cf4167&itok=KOtu3323)
Female Common Blue ©Amy Lewis
Male Common Blue ©Zsuzsanna Bird
Glesyn cyffredin
Enw gwyddonol: Polyommatus icarus
Mae glöyn byw y glesyn cyffredin yn driw i’w enw - mae'n las llachar ac i'w ganfod mewn pob math o gynefinoedd heulog, glaswelltog ledled y DU! Cadwch lygad amdano yn eich gardd hefyd.
Species information
Ystadegau
Lled yr adenydd: 2.9-3.6cmStatws cadwraethol
Common.
Pryd i'w gweld
Mai i HydrefYnghylch
Glöyn byw bach glas sy'n hedfan drwy'r haf rhwng misoedd Ebrill a Hydref yw'r glesyn cyffredin. Dyma’r mwyaf cyffredin o’r glöynnod byw glas ac mae i'w ganfod mewn amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys rhostir, llennyrch mewn coetiroedd, dolydd glaswelltog, parciau, gerddi mawr a thir diffaith. Mae’r lindys yn bwydo ar feillion, tagaradr, pys-y-ceirw a phlanhigion cysylltiedig.Sut i'w hadnabod
Mae gan y glesyn cyffredin gwryw adenydd glas llachar gyda border brown ac ymyl gwyn. Mae'r fenyw yn frown gydag 'arlliw' glas ger y corff. Mae gan y glesyn cyffredin smotiau oren ar ochr isaf ei adenydd ôl, ac mae gan lesyn y celyn, sy’n debyg, smotiau duon. Mae'n fwy na'r glesyn bach a’r glesyn serennog, yn llai na'r glas mawr prin, yn fwy llachar na'r glesyn sialc ac nid oes ganddo'r patrwm du a gwyn sgwarog ar hyd ymyl ei adenydd fel y glesyn adonis.Dosbarthiad
Yn eang, ond yn absennol o Ynysoedd y Shetland.Roeddech chi yn gwybod?
Yn nodweddiadol ceir dwy genhedlaeth o’r glesyn cyffredin mewn blwyddyn, ond os yw'r tywydd yn gynnes, gall fod hyd at dair nythaid dros y gwanwyn a'r haf.Sut y gall bobl helpu
Er mwyn denu glöynnod byw, fel y glesyn cyffredin, i'ch gardd, plannwch forderi llawn neithdar iddynt fwydo ar eu hyd ac eiddew dringol a llwyni ar gyfer pryfed sy'n gaeafu.Gwyliwch
Common blue butterfly on bird's-foot trefoil ©Tom Hibbert