![Kingfisher](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2017-12/Kingfisher%20%C2%A9jonhawkinsSurreyHillsPhotography.jpg?h=7d6ddefd&itok=8tjM9IBW)
©Jon Hawkins Surrey Hills Photography
![Kingfishers](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2017-12/Kingfisher011%C2%A9jonhawkinsSurreyHillsPhotography.jpg?h=3fe004e6&itok=iXY8TmVE)
©Jon Hawkins Surrey Hills Photographer
![Kingfisher in flight](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2017-12/Kingfisher%201%20%28c%29%20Malcolm%20Brown.jpg?h=640bd804&itok=OM8nJDfv)
©Malcolm Brown
Glas y dorlan
Enw gwyddonol: Alcedo atthis
Mae’n hawdd iawn methu’r glas y dorlan trawiadol heb fod yn wyliwr craff iawn! Mae’r aderyn hardd yma’n hawdd ei adnabod diolch i’w liwiau glas llachar a chopr metalig. Mae’n gwibio ar hyd glan yr afon neu’n eistedd yn amyneddgar ar gangen isel uwch ben y dŵr yn aros i’w bryd nesaf nofio heibio.
Species information
Ystadegau
Hyd: 15-17 cmLled yr adenydd: 25 cm
Pwysau: 40 g
Oes ar gyfartaledd: 2 flynedd
Statws cadwraethol
Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Wedi’i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Pryd i'w gweld
Ionawr - RhagfyrYnghylch
Mae glas y dorlan yn aderyn lliwgar ar afonydd a nentydd. Mae i’w weld yn eistedd yn dawel ar ganghennau isel uwch ben y dŵr, gan ddeifio’n ddirybudd i ddal pysgodyn bach. Mae glas y dorlan yn byw mewn nythod tebyg i dyllau ger llynnoedd a dyfrffyrdd eraill, gan ddewis llecyn perffaith i bysgota!Sut i'w hadnabod
Mae’r gymysgedd drawiadol o gefn glas llachar a brest gopr fetalig yn gwneud glas y dorlan yn unigryw. Mae gan y gwrywod big du i gyd, a’r benywod damaid coch neu oren ar ei waelod.Dosbarthiad
Eang, ond yn absennol o ogledd yr Alban.Roeddech chi yn gwybod?
Er mai un rhywogaeth sydd gennym ni ym Mhrydain, mae tua 90 o rywogaethau o las y dorlan ym mhob cwr o’r byd, gyda’r rhan fwyaf â phlu lliwgar a llachar. Glas y dorlan Awstralia – y Kookaburra cyfarwydd sy’n ‘chwerthin’ – yw’r trymaf o’r holl rywogaethau o las y dorlan.Sut y gall bobl helpu
The Wildlife Trusts manage many wetland nature reserves for the benefit of the wildlife they support. You can help by supporting your local Trust and becoming a member; you'll find out about exciting wildlife news, events on your doorstep and volunteering opportunities, and will be helping local wildlife along the way.Gwyliwch
Kingfisher by Russell Savory