![Tufted Duck](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-01/Tufted%20Duck%20%C2%A9%20Guy%20Edwardes2020VISION.jpg?h=ae810bb1&itok=p5CwpVyQ)
©Guy Edwardes/2020VISION
![Tufted Duck](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-01/GED_09_140209_0800.jpg?h=bc7951e2&itok=KU29MlCV)
©Guy Edwardes/2020VISION
Hwyaden gopog
Enw gwyddonol: Aythya fuligula
Mae’r hwyaden fechan ddoniol yma’n driw i’w henw – cadwch lygad am y plu du copog ar ei phen
Species information
Ystadegau
Hyd: 41-45 cmLled yr adenydd: 70 cm
Pwysau: 760 g
Oes ar gyfartaledd: 4 blynedd
Statws cadwraethol
Wedi’i chategoreiddio yn y DU fel Gwyrdd o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Wedi’i gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Pryd i'w gweld
Ionawr i RhagfyrYnghylch
Gyda gwallt anhygoel, dyma un o’n hwyaid plymio mwyaf cyffredin ac mae’n nythu ar lynnoedd, cronfeydd dŵr a phyllau graean wedi gorlifo. Mae hwyaid copog yn bwydo ar chwyn dŵr, hadau planhigion a phryfed dŵr. Fel y rhan fwyaf o hwyaid, nid yw’r gwryw yn gwneud dim â deor yr wyau na magu’r rhai bach. Mae’r iâr yn cael rhwng wyth ac un ar ddeg o wyau ar y tro; mae’r ifanc yn dod yn annibynnol ar ôl magu eu plu terfynol.Sut i'w hadnabod
Mae’r hwyaden gopog yn nodedig iawn: mae’r fenyw yn lliw siocled brown i gyd, a’r gwryw yn ddu gydag ystlysau gwyn a chudyn hir yng nghefn y pen.Dosbarthiad
I’w gweld ledled y wlad, ar lynnoedd, cronfeydd dŵr a phyllau graean wedi gorlifo.Habitats
Roeddech chi yn gwybod?
Ystyr yr enw gwyddonol ar yr hwyaden gopog, fuligula, yw 'gwddw huddygl'.Sut y gall bobl helpu
The Wildlife Trusts manage many wetland nature reserves for the benefit of the wildlife they support. You can help by supporting your local Trust and becoming a member; you'll find out about exciting wildlife news, events on your doorstep and volunteering opportunities, and will be helping local wildlife along the way.Gwyliwch
Tufted Ducks by John Bridges