Gwennol ddu

Swift

©Stefan Johansson

A swift in flight

Swift ©David Tipling/2020VISION

Gwennol ddu

Enw gwyddonol: Apus apus
Mae gwenoliaid duon yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn hedfan – gan hyd yn oed gysgu, bwyta ac yfed wrth hedfan – gan lanio i nythu yn unig. Maen nhw’n hoffi nythu mewn hen adeiladau mewn tyllau bychain yn y to.

Species information

Ystadegau

Hyd: 16-17 cm
Lled yr adenydd: 45 cm
Pwysau: 44 g
Oes ar gyfartaledd: 9 mlynedd

Statws cadwraethol

Wedi’i chategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).

Pryd i'w gweld

Ebrill - Awst

Ynghylch

Mae gwenoliaid duon yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn hedfan yn uchel yn yr awyr, gan lanio i nythu yn unig. Maen nhw’n hawdd eu hadnabod gan eu bod yn edrych fel saeth yn troelli drwy’r awyr, ac yn hedfan mewn grwpiau yn aml. Yn wreiddiol, byddent wedi nythu mewn coed neu ar glogwyni ond nawr mae’n well ganddyn nhw doeau hen adeiladau fel eglwysi. Mae gwenoliaid duon yn treulio’r gaeaf yn Affrica ond yn teithio i Brydain bob blwyddyn ym misoedd Ebrill a Mai.
Maen nhw’n gwledda ar bryfed bach yn hedfan drwy eu dal wrth hedfan. Mae’r pryfed yn casglu mewn cod arbennig yng nghefn gwddw’r wennol ddu, lle maen nhw’n cael eu clymu gyda’i gilydd gan boer nes ffurfio peled sy’n cael ei galw yn ‘bolws’. Mae’r bolws yn gallu cael ei boeri allan a’i fwydo i’r cywion. Gall un bolws gynnwys mwy na 300 o bryfed, gyda rhai’n dal mwy na 1,000!

Sut i'w hadnabod

Mae’r wennol ddu yn ddu i gyd gyda darn bach gwelw ar ei gwddw. Mae’n edrych yn debyg i fwmerang pan mae yn yr awyr, mae’n gymdeithasol iawn ac mae i’w gweld mewn grwpiau yn aml, uwch ben toeau ac yn galw ar ei gilydd gan sgrechian yn wichlyd. Mae’n fwy na gwenoliaid eraill (gyda rhai â boliau gwyn) ac nid yw’n clwydo ar wifrau, adeiladau na choed.

Dosbarthiad

Ymwelydd haf cyffredin ac eang.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae gwenoliaid duon yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn hedfan, gan hyd yn oed gysgu, yfed a pharu wrth hedfan, gan lanio i nythu yn unig.

Sut y gall bobl helpu

Specially designed nestboxes help this species to survive in our towns and villages, where renovation work often blocks the small holes they use to access their nest sites. To discover more about swifts and the range of boxes available, visit www.swift-conservation.org or actionforswifts.blogspot.com

To find out more about encouraging wildlife into your garden, visit the wildlife gardening section of our website, where there are plenty of facts and tips to get you started. To buy bird food, feeders and other wildlife products, visit the Vine House Farm website - an award-winning wildlife-friendly farm that gives 5% of all its takings to The Wildlife Trusts.

Gwyliwch

Swifts by Tom Hibbert