Beth ydi'r Daith Gerdded Wyllt Fawr?
Y Daith Gerdded Wyllt Fawr ydi her codi arian flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur!
Gosodwch her i chi'ch hun i redeg, beicio, cerdded neu rolio gan godi arian i warchod y bywyd gwyllt rydych chi'n ei hoffi. Chi sydd i benderfynu pa mor bell ydych chi am fynd ac i ble rydych chi am gymryd rhan, os yw hynny'n golygu dringo uchder mynydd ar eich grisiau yn y tŷ, neu nofio lapiau yn eich pwll lleol.
Eisiau cymryd rhan fel teulu?
Mae ein Taith Gerdded Draenogod sydd wedi'i chyd-greu yn arbennig gydag Aardman, crëwyr Wallace and Gromit, Shaun the Sheep a Timmy Time, wedi’i dylunio gyda’ch rhai bach mewn golwg. Gallant godi arian ochr yn ochr â chymeriad o'r gyfres boblogaidd Timmy Time, gyda thaflenni gweithgarwch hwyliog i'w lawrlwytho i helpu i'w hannog i gyrraedd y llinell derfyn! Ar gyfer coesau bach ac anturiaethau mawr, mae Taith Gerdded y Draenog yn awgrymu pellter targed o dair cilometr mewn wythnos - yr un pellter ag y mae draenog yn ei deithio bob nos. Ond wrth gwrs, mae croeso i godwyr arian osod eu targedau eu hunain!
Sut i wynebu her y Daith Gerdded Wyllt Fawr
Rydw i mor gyffrous am fod yn rhan o'r Daith Gerdded Wyllt Fawr eleni, rydw i'n edrych ymlaen i gwblhau'r her ac ymuno â chi i helpu i warchod ein byd naturiol.Rhiane FatinikunSylfaenydd Black Girls Hike a llysgennad i'r Ymddiriedolaethau Natur
Cofrestru
Mae'r cofrestru ar gyfer y Daith Gerdded Wyllt Fawr eleni ar agor nawr!
Rhowch gychwyn i'ch antur wyllt a dechreuwch gynllunio eich Taith Gerdded Wyllt Fawr.
Fe fyddwn i'n bendant yn argymell y Daith Gerdded Wyllt Fawr i unrhyw un! Mae'n ffordd wych o fynd allan i fyd natur.Codwr Arian yn 2022
Sut mae cymryd rhan yn helpu bywyd gwyllt?
Mae bywyd gwyllt yn diflannu ar raddfa frawychus ac mae bygythiad trychineb hinsawdd yn bryder parhaus. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn galw am gysylltu o leiaf 30% o’n tir a’n môr a’u diogelu ar gyfer adferiad byd natur erbyn 2030. Bydd yr arian a godir drwy’r Daith Gerdded Wyllt Fawr yn mynd yn uniongyrchol tuag at ein helpu ni i gyrraedd y nod hwn. O ymgyrchu dros ardaloedd gwarchodedig ar y môr i ganiatáu i’n bywyd gwyllt morol gwerthfawr adfer, i weithio gyda thirfeddianwyr a grwpiau cymunedol i greu mannau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, mae eich rhoddion yn ein helpu ni i ddod â bywyd gwyllt yn ôl ar draws y DU ac ar Ynysoedd Manaw ac Alderney.
Cynnwys cyfryngau cymdeithasol!
Dyma rywfaint o raffeg cyfryngau cymdeithasol defnyddiol i'w defnyddio pan fyddwch chi'n dechrau codi arian! Mae'n cynnwys lluniau clawr ar gyfer Facebook, lluniau ar gyfer negeseuon ar Facebook, X (Twitter) ac Instagram, a straeon Instagram.
Lawrlwythwch nhw isod i helpu i wneud i’ch negeseuon codi arian gyrraedd mwy fyth o bobl!
Taith Gerdded y Draenogod - Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
Tirwedd y Daith Gerdded Wyllt Fawr - Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories
Cymeriadau’r Daith Gerdded Wyllt Fawr - Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
30 erbyn 30
Mae’r ymgyrch codi arian #TaithGerddedWylltFawr #BigWildWalk yn cefnogi cenhadaeth yr Ymddiriedolaethau Natur i adfer a diogelu o leiaf 30% o dir a môr ar gyfer byd natur erbyn 2030 – gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.