Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Ionawr
Paratoi ar gyfer y tymor nythu adar
Y mis hwn, canolbwyntiwch ar baratoi ar gyfer y tymor nythu adar.
Bwydwyr adar glân a bocsys
Dechreuwch drwy lanhau unrhyw offer bwydo adar neu flychod nythu sydd gennych eisoes er mwyn atal haint rhag lledu. Gwagiwch hen nythod ac unrhyw ddeunydd ynddynt, yna defnyddiwch sebon ysgafn i ddiheintio’r blwch. Bydd hyn yn helpu atal haint ac afiechyd yn yr adar fydd yn dewis nythu ynddynt. Sicrhewch bod hyn yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd.
Sefydlu blychau nythu
Os nad oes blychau fyny gennych eisoes, ystyriwch osod blychau nythu adar ac ystlumod yn eich gardd. Gallwch brynu blychau o ansawdd da gan lawer o gyflenwyr, neu os ydych yn teimlo’n grefftus, gallwch wneud rhai eich hun gan ddefnyddio’r mesuriadau a geir yma. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio pren heb ei drin. Gosodwch y blychau 3-5m uwchlaw’r ddaear, ar waliau tai, siediau neu goed gan osgoi ardaloedd rhy heulog neu rhy wyntog.
Rheoli dolydd
Archebwch hadau ar gyfer eich dôl flodau wyllt. Gallai hwn fod yn wely bychan neu’n gae cyfan yn dibynu beth sy’n addas i chi! Gallwch archebu hadau wedi eu cymysgu’n barod ar-lein, gan gynnwys gweiriau a blodau gwylltion fel Llygad yr Ych.
Plannu coed
Planwch goed collddail sy’n ffrwytho ac yn dwyn aeron – mae cymysgedd o rai brodorol ac estron yn gweithio’n dda e.e. Ysgawen, Corswigen, Criafolen, Draenen wen.