Gwasanaeth Natur Cenedlaethol

volunteers

Matthew Roberts

 Gwasanaeth Natur Cenedlaethol

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cyfrannu at ddatblygiad cynllun y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol. Nod yr NNS yw adfer byd natur drwy greu swyddi newydd sy’n seiliedig ar fyd natur a chyfleoedd bywoliaeth ac ymgorffori sgiliau gwyrdd ar draws gweithlu’r dyfodol. 

Mae angen i ni feddwl sut rydym am wynebu'r argyfyngau hinsawdd, natur ac iechyd, a hefyd ymateb i'r argyfwng Costau Byw presennol. Er mwyn gwneud hyn mae angen i Gymru fabwysiadu atebion ffres, newydd a all ddechrau mynd i'r afael â'r materion hyn yn awr ac yn y dyfodol drwy newid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio. 

Bydd gwasanaeth natur cenedlaethol yn adeiladu gweithlu gwyrdd medrus ar gyfer y tymor hir drwy ddarparu swyddi gwyrdd a chefnogi gwaith o unrhyw fath sy’n anelu at adfer yr amgylchedd naturiol (gan gynnwys cadwraeth, ffermio, coedwigaeth, eco-dwristiaeth a busnesau sy’n seiliedig ar natur). 

Pam fod arnom angen Gwasanaeth Natur Cenedlaethol?

Mae pandemig Covid-19 wedi cyflymu’r angen am unioni’r ffordd rydym yn wynebu’r argyfyngau hinsawdd, natur ac iechyd, wrth ymateb i heriau economaidd uniongyrchol gan gynnwys diweithdra eang. Er mwyn cyflawni lles ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, mae angen i Gymru fabwysiadu atebion uchelgeisiol, systemig a all ddechrau mynd i’r afael ag anghenion uniongyrchol wrth edrych i’r hirdymor a thrawsnewid y ffordd rydym yn gwneud pethau.