Garddio Bywyd Gwyllt - Rhagfyr

WildNet - Amy Lewis

Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Rhagfyr

Gofalu am Adar yn y Gaeaf

Bwydo

Crogwch fwydwyr adar a rhowch fwyd allan ar y ddaear ac ar fyrddau bwydo adar. Gallwch brynu hadau o ansawdd da gan Vine House Farm (vinehousefarm.co.uk), lle mae cyfran o’r elw yn mynd i’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwylt i gefnogi cadwraeth bywyd gwyllt. Gallwch hefyd osod sgrapiau o’r gegin fel afal, hen gacennau a chaws allan, ond dylech osgoi bara a chneuen goco wedi ei falu, all beri anhwylder ar yr adar. I wneud eich peli braster eich hun, toddwch rhywfaint o saim (lard neu siwet) i dwbyn. Cymysgwch yr hadau iddo a’i arllwys i botyn iogwrt neu debyg i’w grogi o goeden neu o’r bwrdd bwydo. Yn olaf, gadewch aeron ar y coed megis coed celyn i roi ffynonnellau naturiol o fwyd.

Dŵr

Ychwanegwch bath adar i’ch gardd a sicrhewch bod dŵr ynddo a’i fod yn cael ei gadw’n lân a rhydd o iâ. Gallwch hefyd sicrhau bod dŵr eich pwll yn hawdd i adar gael ato gydag ochrau sydd yn goleddfu’n raddol.

Dŵr

Gwagiwch eich blychau nythu a’u glanhau yn drwyadl er mwyn rhoi lloches i adar y tu mewn iddynt dros y gaeaf.

Blackbird in snow

© Margaret Holland

Plannu clawdd brodorol

Mae plannu cloddiau brodorol yn ffordd wych o rannu gardd, diffinio ffiniau a chuddio nodweddion hyll. Maent yn werthfawr hefyd i fywyd gwyllt gan weithredu fel coridorau i alluogi symud o le i le ac i gynnig bwyd a chysgod. Dilynwch y camau hyn i blannu eich clawdd eich hun:

  1. Dewiswch goed cloddiau brodorol sy’n gweddu eich anghenion megis Celynnen, Ywen, Draenen Wen a Choed Cyll. Mae gan y cloddiau gorau sawl rhywogaeth ynddynt felly dewiswch o leiaf bedwar. Dewiswch fath bythwyrdd i gynnig cysgod yn ystod y gaeaf.
  2. Palwch y safle, gan dynnu chwyn a gwreiddiau, yna cymysgwch ddigon o dail wedi pydru’n dda i’r pridd er mwyn rhoi’r dechrau gorau posib i’ch coed. I gael clawdd trwchus braf, planwch 5 planhigyn bob metr am yn ail mewn dwy res.
  3. Dyfrhewch yn dda.
  4. Pan fo’r coed ychydig o flynyddoedd o oed, ystyriwch blannu dringwyr arnynt fel Gwyddfid a bylbiau fel Clychau’r Gog.