Uchafbwyntiau Prosiect Ynysoedd Allweddol – Ceidwaid y Môr
Ynys Sgomer
Fe wnaeth staff a thîm gwirfoddolwyr Ynys Sgomer YNDGC wneud eu gorau glas i gyfrif pob aderyn môr sy’n nythu ar y clogwyni ar yr ynys yn ystod tair wythnos gyntaf mis Mehefin. Cafodd cyfanswm aruthrol o 32,000 o Wylogod a mwy na 10,000 o Lursod eu cyfrif gan y tîm o gwch yr ynys. Roedd yr injan newydd, yr offer diogelwch a’r hyfforddiant ar gyfer ein staff a’n gwirfoddolwyr ni a ariannwyd gan grant yr NNF yn golygu bod hon yn broses fwy effeithlon a chyfforddus i’r tîm yn 2022.
Gwelwyd y cyfrif palod mwyaf erioed ar ôl yr ail ryfel byd ar Ynys Sgomer ym mis Mawrth 2022. Cofnodwyd 38,896 o balod yn ystod cyfrif cynnar gyda'r nos cyn dodwy wyau pan oedd yr holl adar ar wyneb y tir neu'r môr ac yn weladwy i'r staff. Mae'r holl ganlyniadau adar môr yn cael eu hadrodd ac mae adroddiad llawn ar adar môr Sgomer ar gael i unrhyw un ei lawrlwytho am ddim o'n gwefan ni.
Dywedodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a Morol ar gyfer YNDGC, “Mae parhad ein hastudiaethau tymor hir ni o boblogaethau adar môr a llwyddiant magu’n gofyn am fuddsoddiad enfawr mewn amser a hyfforddiant staff ond hefyd mewn offer sydd arnom ei angen i ganiatáu iddynt wneud eu swyddi yn ddiogel. Mae arian o’r grant hwn wedi talu am bopeth o ddillad cychod, radios VHF a siacedi achub i injan cwch newydd gwerth £6k ar gyfer ein tîm ar Sgomer, i ‘guddfan palod’ newydd sbon, bwrpasol ar Sgogwm! Dim ond drwy wybod sut mae ein hadar môr ni’n dod yn eu blaen bob blwyddyn y gallwn ni obeithio rheoli ein cynefinoedd ynys gwerthfawr a’r amgylchedd morol ehangach er eu lles nhw.”
Mae’r gronfa Rhwydweithiau Natur wedi bod yn achubiaeth i waith monitro adar môr a mynediad ymwelwyr YNDGC ar Ynysoedd Sgomer a Sgogwm, wrth iddynt barhau i adfer o effeithiau ariannol Covid.