Siaradwr Cymraeg? Dysgwr Cymraeg?
Ni wnaeth ein taith 'Cerdded, Coffi a Chlonc' mis Gorffennaf yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cilgerran ein siomi; yn ogystal â llawer o gyfle i sgwrsio yn Gymraeg, gwelsom bopeth ar ein taflenni sbotio a llawer mwy! I fi'r peth gorau oedd gweld dwrgi ar Afon Teifi. Fodd bynnag, roedd digon o flodau gwyllt ac infertebratau ar y ddôl i ddarganfod a dysgu'r enwau amdanynt hefyd. Roedd llawer o loÿnnod byw - Gweirloyn y Ddôl (Meadow Brown), Chwilen y Sowldiwr (Soldier Beetle) a Gwyfynod Bwrned Chwe Smotyn (6 Spot Burnet) yn mwynhau'r Bengaled, (Common Knapweed) Llysiau’r Gringroen, (Common Ragwort) a’r Efwr (Hogweed).
Fel pob tro, ar ôl ein taith gerdded aethom am baned yng nghaffi Tŷ Gwydr yn y ganolfan ymwelwyr lle'r oedd mwy o gyfle i ymarfer sgwrs Gymraeg mewn lleoliad hamddenol. Mae rhai pobl hyd yn oed yn aros am ginio.
Wrth i mi weithio yn y warchodfa natur hardd hon, dw i eisiau helpu eraill i werthfawrogi a mwynhau'r natur syfrdanol sydd gennym yma wrth ddysgu rhai o'r enwau Cymraeg ar gyfer y bywyd gwyllt. Rwy'n ddysgwr fy hun ac roeddwn i eisiau sefydlu'r teithiau cerdded fel ffordd o ymarfer a dysgu mwy o Gymraeg wrth annog eraill i ddod at ei gilydd a defnyddio'r iaith.
Felly, os ydych chi'n mwynhau mynd allan ym myd natur ac eisiau cyfle i sgwrsio yn Gymraeg ac efallai dysgu mwy am y bywyd gwyllt yma, dewch draw. Rydyn ni'n gyfeillgar ac yn gefnogol iawn ac fel dysgwr fy hun rwy'n gwybod y gall deimlo ychydig yn frawychus ar y dechrau. Mae pobl sy'n mynychu'r teithiau cerdded yn amrywio o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf i bob lefel o ddysgwyr. Fodd bynnag, mae croeso i bawb i roi cynnig arni gyda chymorth eraill pan fo angen.
Ni fydd 'Cerdded, Coffi a Chlonc' ym mis Awst gan y byddaf yn rhy brysur gyda digwyddiadau gwyliau i ymwelwyr. Y daith gerdded nesaf fydd dydd Gwener 8fed o Fedi am 11yb, e-bostiwch g.taylor@welshwildlife.org os hoffech ddod, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr bostio.
Does dim cost i'r digwyddiad, heblaw am £4 i barcio drwy'r dydd, am ddim i aelodau