Garddio Bywyd Gwyllt - Mawrth

Wood anemone Anemone nemorosa growing in profusion on woodland floor, Scotland, May - Mark Hamblin/2020VISION

Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Mawrth

Creu tomen gompost

Mae tomen gompost yn ffordd wych o gael gwared â’ch gwastraff cegin a gardd, tra’n creu bwyd ar gyfer eich gardd a chartref i fywyd gwyllt yr un pryd. Mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn fel trychfilod a mwydod yn byw ar y deunydd sy’n pydru, fydd yn eu tro yn Neidr Ddefaid, Draenogod a Llyffantod.

  1. Dewiswch lecyn heulog gan y bydd hyn yn helpu’r compost i bydru’n gynt.
  2. Prynwch gynhwysydd parod neu gwnewch un allan o ddarnau o bren wedi eu hailgylchu. Ceisiwch sicrhau fod ambell fwlch i’w cael ar ochrau eich bin fydd yn caniatáu i fywyd gwyllt fel Neidr Ddefaid i gael mynd a dod. Gwnewch yn siwr fod caead arno fydd yn atal dŵr.
  3. Gallwch roi unrhyw beth gwyrdd yn eich tomen gompost – chwyn, crwyn ffrwythau a llysiau, ffa coffi wedi ei falu, papur. Peidiwch â rhoi bwyd
    wedi ei goginio ynddo am y bydd hwnnw yn denu llygod, na llwch coed neu garthion anifail a fydd yn newid ansawdd y compost.
  4. Bydd y compost yn barod pan fydd golwg brown tywyll a phriddlyd arno.
Slow worm

© Amy Lewis

Rheoli Dolydd

Os oes dôl flodau gwyllt gennych wedi ei sefydlu eisoes yn ei hail flwyddyn neu’n hŷn, efallai y byddai’n syniad ei dorri i ryw 50-100mm o hyd nawr er mwyn atal
gweiriau rhag tra-arglwyddiaethu.