Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Chwefror
Help draenogod
Mae’n adeg da nawr i roi bwyd allan i ddraenogod all fod yn dod allan wedi cysgu’r gaeaf a moch daear all fod yn cael trafferth dod o hyd i fwyd ar ddiwedd y gaeaf. Peidiwch â’u bwydo â bara a llaeth sy’n gallu peri salwch, ond yn lle hynny rhowch gymysgedd o fwyd ci a cheirch allan.
Palas i frenhines
Yn gynnar yn y Gwanwyn, fel rheol o fis Mawrth ymlaen yn dibynu ar y tywydd, bydd Brenhinesau cacwn yn deffro wedi cysgu’r gaeaf i fwydo ac edrych am lefydd i adeiladu nyth. Maent fel arfer yn defnyddio hen nythod llygod neu nythod llygod y gwair. Gallwch eu helpu drwy adael rhywfaint o Ddant y Llew cynnar yn yr ardd i gynnig ffynhonell bwysig a chynnar o neithdar a thrwy adeiladu nyth cacynen gan ddilyn y cyfarwyddiadau canlynol:
- Dewch o hyd i fan sych a chysgodol mewn rhan heulog o’r ardd i osod eich nyth. Mae ar fancyn yn ddelfrydol gan fod draeniad da yma ond os nad yw hyn yn bosibl, defnyddiwch wely blodau neu waelod clawdd.
- Cymerwch botyn blodau clai, sydd tua 20cm o ddyfnder neu fwy a llenwch i’w hanner â deunydd nythu, fel papur shwrwd, gwair sych neu wellt. Cysylltwch ddarn o beipen dyfrio 5cm o hyd (25-30cm o led) i’r twll ar waelod y potyn.
- Cysylltwch ddarn o beipen dyfrio 5cm o hyd (25-30cm o led) i’r twll ar waelod y potyn.
- Claddwch y potyn ben i waered yn y pridd fel bod y twll draenio yn wynebu fyny a’r fynedfa i’r beipen ddyfrio yn brigo wyneb y pridd.
- Ychwanegwch ffon 10cm o uchder ger y fynedfa i’r beipen. Bydd hyn yn eich helpu i gofio yn lle y mae a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y gacynen yn hwyrach yn yr haf i ddod o hyd i’r ffordd nôl i’w nyth.
Rheoli dolydd
Ar ddiwrnod sych, paratowch ddarn bach (neu fawr!) o dir ar gyfer dôl flodau gwyllt. Mae angen pridd sydd yn isel mewn maeth ar blodau gwyltt, felly os gallwch, dechreuwch trwy dynnu ‘r haen uchaf o bridd. Crafwch y pridd â chribyn ond peidiwch â’i droi oherwydd y gallai hyn ddod â hadau nad sydd eu hangen i’r wyneb.