Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Medi
Adeiladu gaeafod i ymlusgiaid
Nawr bod y tywydd yn llai cynnes, mae’n adeg dechrau meddwl ynghylch sut y gallech helpu bywyd gwyllt i oroesi’r gaeaf. Mae yna fath arbennig o wely pridd uchel y gallwch ei adeiladu fydd hefyd yn creu safleoedd gaeafu i fywyd gwyllt, sef ‘Huglekultur’. Mae’n cynnig lloches i fywyd gwyllt tra’n cynnig pridd cyfoethog i’ch planhigion. I greu eich un eich hun, dilynwch y camau canlynol:
- Dechreuwch drwy ddewis ardal sych, yn ddelfrydol lle bydd gan y gwely pridd wair hir neu dyfiant arall o’i amgylch.
- Marciwch ardal 1m x 2m (neu’n fwy os dymunwch!), gyda’r ochr hir yn wynebu’r de.
- Tynnwch y tyweirch oddi ar yr ardal yma a’i osod i’r naill ochr, wedyn cloddiwch ffos 20cm o ddyfnder.
- Llanwch y ffos yn flêr â boncyffian, gan ffurfio bancyn ryw 1 m o uchder. Bydd hwn yn creu siambrau islaw lefel y rhew lle gall ymlusgiaid, amffibiaid a rhywgaethau eraill dreulio’r gaeaf.
- Gorchuddiwch y twmpath yma â changhennau llai a brigau.
- Rhowch y tyweirch nôl ar ei ben gyda’r gwair am i lawr a gorchuddiwch y cyfan â’r pridd gloddiwyd o’r ffos ac ychydig mwy os bydd ei angen.
- Gallwch wedyn blannu llysiau a blodau gwyllt ar ben y twmpath. Bydd y blodau gwyllt yn denu’r peilllwyr at eich llysiau a bydd yr ymlusgiaid a’r amffibiaid yn y gwely yn cadw golwg ar eich plaon!
Save seed heads
Wrth glirio gwelyau blodau, cadwch bennau blodau hadog fel Llysiau’r Dryw, Llysiau’r Pannwr a Blodau’r Haul ar gyfer adar fel y llinosod i fwydo arnynt dros y gaeaf.