Garddio Bywyd Gwyllt - Awst

WildNet - Amy Lewis

Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Awst

Gosod blychau ystlumod

Gwnewch gartref i ystlumod yn eich gardd a gosodwch flychau ystlumod ar goed mawr neu adeiladau. Byddwch yn ymwybodol bod ystlumod wedi eu hamddiffyn felly dylech osgoi coed ac adeiladau y dymunwch wneud rhywfaint o waith arnyn nhw yn y dyfodol os yn bosib.

  1. Gallwch brynu blychau o ansawdd da gan lawer o gyflenwyr, neu os ydych yn teimlo’n grefftus gallwch wneud eich rhai eich hun gan ddefnyddio’r mesuriadau a geir yma. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio pren heb ei drîn ag iddo wead bras i roi rhywbeth i’r ystlumod gydio ynddo.
  2. Gosodwch y blychau 3-5m uwch law’r ddaear, ar goed neu dai, mewn ychydig o heulwen gan osgoi’r prif wyntoedd. Mae sicrhau llwybr hedfan clir yn syniad da i ystlumod.

Peidiwch â phoeni os na chaiff eich blwch ystlumod ei ddefnyddio’n syth, mae ystlumod yn ddewisol iawn a byddant yn symud o gwmpas yn ôl yr adeg o’r flwyddyn.

Bechstein's bat on a tree

© Chris Damant

Rheoli dolydd

Os yw eich dôl flodau gwyllt nawr yn ei hail flwyddyn neu’n hŷn, bydd angen toriad ym mis Awst neu Fedi. Torwch hi’n uchder byr (rhwng 5-10cm), yna gadewch y toriadau yno am ddiwrnod neu ddau i adael i’r hadau syrthio i’r pridd. Mae wedyn yn hanfodol bod yr holl doriadau yn cael eu codi i atal maethion rhag cronni yn y pridd. Gallwch gompostio’r rhain wedyn.

Gosod casgen ddŵr

Mae casgenni dŵr yn cael eu defnyddio i storio dŵr o doeau adeiladau yn dilyn glaw. Maent yn lleihau faint o ddŵr sy’n mynd i’r system ddŵr yn ystod stormydd, sy’n lleihau’r gwasgedd ar ein hafonydd lleol. Maent hefyd yn rhoi cyflenwad am ddim o ddŵr i’r ardd. Beth am osod un ar eich tŷ neu sied? Os carech chi geisio gwneud rhywbeth ychydig yn fwy heriol, beth am greu gardd law o’r biben ddraen yn hytrach na chasgen ddŵr?