Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Mehefin
Plannu caffi neithdar
Bydd yr ardd yn dod yn fyw nawr gyda gwenyn, ieir fach yr haf a
chreaduriaid di-asgwrn-cefn eraill sy’n hoff o neithdar, y gallwch chi eu helpu
drwy greu caffi neithdar.
- Dewiswch lecyn heulog, cysgodol yn yr ardd a marciwch wely blodau yn y ddaear.
- Tynnwch y tyweirch oddi yno a throwch y pridd yn barod ar gyfer plannu.
- Planwch amrywiaeth o blanhigion i geisio sicrhau fod y neithdar ar gael o’r gwanwyn drwodd i’r hydref.
- Dewiswch amrywiaethau brodorol dros blanhigion a gafodd eu meithrin na fydd yn debygol o gynhyrchu cymaint o neithdar.
- Ychwanegwch blanhigion dringo sydd hefyd yn cynhyrchu aeron ac egroes fel atynfa ychwanegol e.e. Gwyddfid, Rhosod Gwylltion, Iorwg a Gwinwydd Duon.
- Denwch wyfynnod yn y nos gyda phlanhigion sawrus megis Melyn yr Hwyr a Siriol Pêr y Nos.
Creu llety i’r llyffant
Un peth hawdd ei wneud ar gyfer bywyd gwyllt y mis hwn yw creu man y gall Llyffantod a Brogaod gysgodi rhag gwres yr haul a ysglyfaethwyr. Mewn man glaswelltog, yn agos i bwll os oes un gennych, cloddiwch siambr ryw 3-4cm o ddyfnder gyda mynedfa ar oleddf. Gorchuddiwch hwn â charreg balmant i greu’r guddfan berffaith. Fel arall, gwnewch dwll yn ochr potyn blodau pridd. Gosodwch hwn mewn man glaswelltog.