Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Mai
Adeiladwch eich palas prydferth eich hun!
Mae hwn yn weithgaredd gwych i oedolion a phlant! Gall ‘Gwestyau Pryfed’ fod bob ffurf a siâp. Gallwch fynd am un mawr a defnyddio pren paledi un ar ben y llall fel eich ffrâm, neu gallwch ddefnyddio cynhwysydd bychan fel blwch pren bach neu botel blastg gyda’r pen wedi ei dorri i ffwrdd – mae fyny i chi. Bydd hyn o fudd i bob math o greaduriaid, o wenynod unigol i adain siderog. Does dim dull cywir nac anghywir i greu gwesty pryfed felly ewch ati, byddwch yn greadigol a mwynhewch. Ceisiwch gynnwys rhai o’r nodweddion canlynol ynddo:
- Bonion planhigion gwag y tu mewn e.e. ffyn bambŵ
- Ffyn a brigau
- Gwellt
- Boncyffion (gyda’r rhisgl amdanynt) gyda thyllau o feintiau gwahanol wedi eu drilio i’r pennau (gwnewch yn saff eu bod i gyd dros 90mm o ddyfnder)
- Cardfwrdd crychlyd wedi ei rolio i gynhwysydd sy’n cadw dŵr draw
- Tywod
- Brics a cherrig (cyfan ac wedi malu)
Gallwch greu gwesty moethus drwy adael lle gwag i Ddraenogod a Brogaod ar waelod eich gwesty pry-dferth a thrwy ychwanegu toˆ gwyrdd uwch ben – orchuddio’r top â deunydd sach neu debyg, gyda rhywfaint o dyllau yn yr ochr ar gyfer draenio dŵr na fydd yn gollwng i’r gwesty, rhowch gompost drosto ac yna ei hadu â chymysgedd o flodau gwylltion.
Gadael llwyni fod
Mae cywion yn debygol o fod mewn nythod am y fisoedd nesaf, felly gadewch gloddiau a choed heb eu torri i roi mwy o amddiffynfa iddynt.