Mae’r pump Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru wedi’i ymuno i helpu pobl ifanc taclo’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn uniongyrchol. O 2020 i 2024, mi fyddwn ni’n weithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros natur a'r hinsawdd yn eu cymunedau lleol. Yn yr prosiect dan arweiniad ieuenctid hwn, mae ein haelodau yn penderfynu pa fath o weithredau maent eisio’i weld yn eu cymunedau, unrhyw beth o ymgyrchion i deithiau cerdded yn natur. Trwy’r priosect hwn, rydych chi’n cael cyfarfod â phobl o’r un anian a dysgu popeth am y byd naturiol mewn ffordd ddiddorol a grymusol.
Pam Nawr?
Ni bu erioed amser pwysicach i gweithredu dros natur. Rydym yn gwynebu argyfyngau hinsawdd a natur rwan, gyda 17% o rhywogaethau yn Nghymru mewn perygl o difodiant. Mae bywyd natur ar fin diflannu yn ein cymunedau gwledig a trefol, a fel ganlyniad ni buom erioed yn fwy datgysylltiedig oddi wrth ein byd naturiol. Ond mae na ddal amser i newid hyn! Drwy weithio gydai’n gilydd, mi allwn ni wrthdroi’r dirywiad bioamrywiaeth a diogelu ein hynain yn erbyn effeithiau gwaethaf newid hinsawdd. Gadewch i Cymru fod yn esiampl i weddill y Byd, a gadewch i pobl ifanc arwain y ffordd!