Step back in history...
About the trail – The heritage audio trail is set at one of South Wales’ most beautiful nature reserves, which supports a wealth of wildlife. Wildflower meadows are intertwined with fields of sunflowers, lakes, ponds, woods and hedgerows.
There are key focal points along the way, as well as the reserve interpretation panels, which will teach you about the history and wildlife of the site.
Audio Tour Trail
Enjoy our Parc Slip Heritage and History Audio Trail. Click on the options below.
1. Tram Glo
Cert a arferai gael ei ddefnyddio i gludo glo o’r pwll i’r wyneb ar y rheilffordd danddaearol. Yn y dyddiau cynnar, byddai bachgen ifanc neu ifanc iawn yn cael ei gyflogi i agor a chau’r drysau yma er mwyn i’r tramiau allu mynd heibio.
Audio
2. Tad a Mab
Os oedd eich tad yn löwr a chithau’n fachgen, mae’n bur debyg mai glöwr fyddech chi hefyd. Yma mae tad yn cerdded ei fab i’r gwaith am y tro cyntaf. Lamp yn eu llaw a Tommy Box a chinio yn eu pocedi.
Roedd plant yn cael eu cyflogi i agor a chau drysau oedd yn rheoli’r awyriad i’r pwll glo, i adael i’r tramiau fynd drwodd.
Audio
3. 1892
Dyddiad y trychineb yn y pwll glo, sef ffrwydrad dan y ddaear. Bu farw 112 o ddynion a bechgyn a hefyd un ar bymtheg o ferlod y pwll.
Audio
4. O’r Gorffennol i’r Presennol
Yma fe welwch chi ddyddiadau’r newidiadau a’r digwyddiadau arwyddocaol ar y safle, o 1864 tan y presennol. Ar y top mae tram glo.
Audio
5. Cerfiad mochyn daear
Y Mochyn Daear yw emblem Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a dyma ein hysglyfaethwr tir mwyaf. Mae’n aelod o deulu’r Carlymoliaid ac yn perthyn i’r Carlwm, y Wenci a’r Dyfrgi.
Mae’n anifail hawdd iawn ei adnabod, yn fawr a llwyd gyda chynffon bwt flewog, bol a phawennau duon ac wyneb du a gwyn streipiog cyfarwydd. Mae’r Mochyn Daear yr un mor gyffredin â’r Llwynog Coch, ond yn fwy nosol a swil ei arferion. Mae moch daear yn byw mewn grwpiau teuluol mawr mewn system o dyllau o’r enw ‘daear’.
Maent yn bwydo ar famaliaid bychain, wyau adar sy’n nythu ar y tir, pryfed genwair, ffrwythau, a gwreiddiau a bylbiau, y maen nhw’n cloddio amdanynt yn y ddaear gyda phawennau cryf eu traed. Mae’r cenawon yn cael eu geni ym mis Ionawr neu Chwefror ond yn treulio eu dau neu dri mis cyntaf dan y ddaear, cyn dod allan yn y gwanwyn.
Audio
6. Lamp glöwr gyda gwyfynod
Dyfeisiwyd y lamp ddiogelwch gan Syr Humphrey Davy yn 1815 i ddarparu
ffynhonnell ddiogel o olau o dan y ddaear. Roedd y lamp yn gadael ocsigen ar gyfer y fflam i mewn ond yn stopio’r fflam neu’r sbarc rhag cymysgu â’r nwyon ffrwydrol oedd i’w cael yn y pyllau glo.
Mae mwy na 600 o rywogaethau wahanol o löynnod byw a gwyfynod wedi’u cofnodi yn y warchodfa, gan gynnwys hywogaethau cenedlaethol brin fel y Glesyn Cyffredin a’r Gastan Frith. Y llefydd gorau ar gyfer Lepidoptera yw’r cynefinoedd o laswelltir sydd â chyfoeth o rywogaethau.
Audio
7. Ebill tro / Caib gyda deiliach
Defnyddiwyd Ebill tro (neu geibiau) i gloddio’r glo allan o wyneb y graig. Hefyd gellid eu defnyddio i dorri darnau mawr o lo’n fannach. Gan weithio ochr yn ochr â ffermwyr a gwirfoddolwyr lleol, mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn rheoli Parc Slip fel tirwedd amaethyddol draddodiadol o ddolydd blodau gwyllt a chnydau âr.
Audio
8. Ceffylau’r pwll glo
Roedd ceffylau’n cael eu defnyddio o dan y ddaear o ganol y 18fed ganrif hyd at ganol yr 20fed ganrif i lusgo tramiau o lo o’r pwll i’r siafft neu waelod y drifft. Fel rheol, roeddent yn gweithio shifft wyth awr bob dydd, ac yn ystod y shifft honno roeddent yn cludo 30 tunnell efallai o lo mewn tramiau (tybiau), ar y rheilffordd danddaearol.
Fel rheol, roedd y ceffylau mewn pyllau drifft yn cael eu cadw mewn stablau dan y ddaear ac yn cael eu bwydo ar ddeiet gyda chyfran uchel o wair wedi’i falu ac india-corn, ac yn dod i’r wyneb yn ystod gwyliau blynyddol y lofa yn unig. Mae’r cerfiad ceffyl pwll glo wedi’i osod ar y llwybr marchogaeth heddiw.
Audio
9. Rhaw a Thegeirianau:
Yn ystod yr haf mae llawer o gaeau Parc Slip yn fwrlwm o liw y blodau gwyllt, o flodau’r brain a llygad-llo mawr i rywogaethau niferus o degeirianau. Mae’r blodau gwyllt yma’n denu pryfed sydd, yn eu tro, yn denu adar ac ymlusgiaid.
Audio
10. Pwll glo i flodau ac awyr
Dyma bortreadu’r newidiadau naturiol o bwll glo i warchodfa natur. Glo yn newid i bridd, gyda phridd infertebrata bach, wedyn mamaliaid bychain fel y twrch daear. Gwreiddiau planhigion yn cynnal blodau sydd, yn eu tro, yn cynnal infertebrata yn yr awyr, ac ymlaen i adar ac wedyn awyr, cymylau a’r haul.
Audio
11. Perllan
Crëwyd y berllan yn 2021 fel rhan o brosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae’r berllan ffurfiol yn gymysgedd o afalau, gellyg, eirin a cheirios mewn amrywiaethau traddodiadol a threftadaeth Cymreig. Mae’r ardal anffurfiol wedi’i chynllunio gan feddwl am fywyd gwyllt gyda choed ffrwythau brodorol fel drain gwynion a phiswydd. Bydd blodau’r coed ffrwythau o fudd i’n pryfed peillio fel cacwn yn gynnar yn y gwanwyn.
Unwaith y byddant wedi sefydlu, bydd y ffrwythau’n cael eu defnyddio yng nghaffi ein Canolfan ymwelwyr ac i bobl fynd adref gyda nhw.
Audio
12. Cae Âr
Ar ddiwedd yr haf mae’r cae âr yn edrych ar ei orau. Mae’r cae wedi cael ei blannu â blodau haul, melyn yr ŷd, bulwg yr ŷd, miled a blodau gwyllt eraill tir âr i ddarparu bwyd ar gyfer adar dros y gaeaf. Mae’n fwrdd adar mawr iawn! Yn ystod y gaeaf, os ydych chi’n lwcus, gallwch weld heidiau o bincod ac adar eraill yma.
Audio
13. Gwlybdiroedd y Gogledd
Mae Gwlybdiroedd y Gogledd yn denu amrywiaeth o adar y gwlybdir fel cornchwiglod, corhwyaid a hwyaid copog. Crëwyd yr ardal wrth adfer y warchodfa o safle glo brig. Mae bellach yn gartref i amffibiaid, ymlusgiaid a mamaliaid bach. Allwch chi weld gwartheg yr ucheldir? Maent yn gwneud gwaith cadwraeth pwysig drwy bori’r cae.
Audio
14. Pwll/Canolfan ymwelwyr
Croeso gwyllt i Warchodfa Natur a Chanolfan Ymwelwyr Parc Slip, sy’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mae’r warchodfa 300 erw yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd rhyfeddol ac mae digon o lwybrau beicio a cherdded i’w harchwilio. Cofiwch stopio am goffi a chacen yng Nghaffi ein canolfan ymwelwyr.