Dyddiau da i ddod ym myd Coed!

Dyddiau da i ddod ym myd Coed!

Diweddariad ar brosiect Rhwydweithiau Natur Rhanbarth y Dwyrain gan Duncan Ludlow, Rheolwr Gwarchodfeydd YNDGC.

Mae’r prosiect Rhwydweithiau Natur yn ei anterth yng ngwarchodfeydd natur yr Ymddiriedolaeth Natur yn ne ddwyrain Cymru! A rheoli coed yw canolbwynt y sylw.

Mae gwaith prosiect ‘Cysylltu’r Dyfodol’ YNDGC wedi canolbwyntio ar waith blaenoriaeth uchel i roi sylw i glefyd y coed ynn yn nifer o warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur gan gynnwys Coed y Bwl, Coed y Bedw, Coed Dyrysiog, Coed Garnllwyd a Phwll y Wrach. Mae llawer o'r gwaith hwn wedi bod yn diogelu coed ar ochr y ffordd.
 

Tree work at Coed y Bwl Nature Reserve

Tree work at Coed y Bwl Nature Reserve

Dolydd y Ficerdy 
Mae ein tîm Rhwydweithiau Natur wedi bod yn brysur yng ngwarchodfa Dolydd y Ficerdy hefyd. 
Mae gwaith wedi cael ei wneud i docio a lleihau tyfiant gwrych o goed ffawydd sy'n tyfu ar derfyn y cae rhwng y ddôl ddwyreiniol a’r ddôl orllewinol. Nod y gwaith ar y coed yw lleihau'r cysgod a'r effaith ar y dail yn cwympo ar y ddôl oherwydd gallai hyn fod yn ffactor sy'n cyfrannu at ddirywiad y tegeirianau gwyn bach.

Tystiolaeth o hen ffotograffau bod y coed yma wedi tyfu ac wedi lledaenu'n sylweddol. Bydd rheoli'r uchder hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd y coed aeddfed hyn yn cael eu chwythu gan y gwynt, a fyddai'n achosi difrod i'r dolydd.
 

Bydd cronfa grant £500,000 y Rhwydweithiau Natur yn cefnogi dau brosiect gan YNDGC, sef prosiect morol ‘Gwarcheidwaid y Môr’ a phrosiect ar y tir, ‘Cysylltu’r Dyfodol’, tan fis Mawrth 2023. Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.