Sut i dyfu darn gwyllt neu ddôl fechan

Sut i dyfu darn gwyllt neu ddôl fechan

Boed yn bot blodau, gwely blodau, darn gwyllt ar eich lawnt, neu ddôl gyfan, mae plannu blodau gwyllt yn darparu adnoddau hanfodol i gynnal ystod eang o bryfed na fyddai’n gallu goroesi mewn ardaloedd trefol fel arall. Mae hefyd yn ffordd wych o osgoi defnyddio offer fel peiriannau torri gwair sy'n cael eu pweru gan danwydd ffosil!
Wildflower illustration

Opsiwn 1 - Gadewch i'ch glaswellt dyfu'n dal

Mae glaswellt tal, yn frith o flodau, yn un o’r cynefinoedd prinnaf yn ein gerddi ni sy’n cael sylw da, ond eto mae’n hynod fuddiol i fywyd gwyllt. Mae darnau o laswellt tal yn annog gwahanol rywogaethau o blanhigion i dyfu, yn helpu pryfed i ffynnu ac yn creu cyfleoedd bwydo i adar a mamaliaid bychain.

Felly gadewch i fyd natur symud i mewn! Neilltuwch ddarn bach o’ch lawnt, gan adael iddo dyfu, ac aros i weld beth sy'n cyrraedd. Po leiaf taclus ydi'r lawnt, y mwyaf addawol fydd hi i fywyd gwyllt. Fe allwch chi godi'r llafnau torri ar eich peiriant torri gwair i greu rhai llwybrau a gadael gweddill y torri gwair tan fis Gorffennaf neu fis Awst ar ôl i’r planhigion flodeuo.

Leave your garden wild activity sheet

Gadewch i fyd natur symud i mewn neu hau darn o flodau gwyllt; ewch ati i greu cornel wyllt yn eich gardd

Opsiwn 2 - Dechrau o'r dechrau

Fe allwch chi greu ardal o flodau gwyllt o'r dechrau ar dir noeth. Dewiswch ddarn gwael o dir sydd heb ei drin yn ddiweddar. Mae dolydd blodau gwyllt yn sefydlu orau ar bridd anghynhyrchiol. Mae’n werth gwirio pa fath o bridd sydd gennych chi a’i pH cyn i chi ddewis pa hadau i’w hau; mae masnachwyr hadau blodau gwyllt yn cyflenwi cymysgeddau sy'n addas ar gyfer gwahanol fathau o bridd a lleoliadau.

Os yw lefel ffrwythlondeb eich pridd yn rhy uchel i flodau gwyllt bythol ffynnu, ystyriwch hau cymysgedd blynyddol ar gyfer cae o ŷd sy’n cynnwys planhigion fel glas yr ŷd, pabi’r ŷd, melyn yr ŷd a bulwg yr ŷd, gyda rhywfaint o hadau haidd a gwenith i greu ymddangosiad naturiol!

I greu eich darn o'r dechrau:

  • Ewch ati i reoli’r chwyn drwy gloddio neu balu â pheiriant, gan gladdu unrhyw lystyfiant i ddyfnder o 15 i 20cm. Mae hyn hefyd yn dod â phridd llai ffrwythlon i'r wyneb.
  • Gwasgwch yr arwyneb yn gadarn a’i gribinio i greu gwely hadau.
  • Peidiwch â chael eich temtio i ychwanegu tail neu wrtaith gan y bydd hyn yn annog egni gormodol yn y glaswelltau, sydd wedyn yn tagu’r blodau gwyllt. Dyma'r egwyddor bwysicaf wrth sefydlu dôl o flodau gwyllt.
  • Heuwch yn yr hydref, gan roi amser i'r hadau setlo i mewn dros y gaeaf. Os ydych chi ar glai trwm, fodd bynnag, mae'n well aros tan y gwanwyn. Gall hyd yn oed ardaloedd mawr gael eu hau â llaw yn eithaf hawdd.
  • Gwnewch yn siŵr bod yr hadau wedi'u gwasgaru'n gyfartal drwy hau hanner ar ei hyd a'r hanner sy'n weddill ar draws y llain. Mae cymysgu'r hadau â thywod arian yn gwneud y broses yn haws. Cribiniwch yn ysgafn a dyfrio’n drylwyr.
Pollinators and flowers illustration

Planhigion a awgrymir

Os ydych chi'n plannu yn y gwanwyn

Os ydych chi'n plannu yn yr haf

Cynnal a chadw eich darn gwyllt

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae'n hanfodol sefydlu trefn dorri gwair briodol. Torrwch i 5 i 7cm pan fydd yr uchder yn cyrraedd 10 i 20cm. Gall nifer y toriadau sydd eu hangen amrywio o un i bedwar. Ewch ati i reoli chwyn cryf fel ysgall, danadl poethion a dail tafol drwy chwynnu â llaw.

Ar ôl hyn, dylai toriad neu ddau y flwyddyn fod yn ddigon. Unwaith ddiwedd mis Gorffennaf/dechrau mis Awst ac wedyn eto yn gynnar yn yr hydref. Ar ôl torri’r gwair, gadewch y gwair yn ei le bob amser am ychydig o ddiwrnodau i ollwng unrhyw hadau, wedyn cribinio a thynnu i reoli lefel ffrwythlondeb y pridd.

Cyngor doeth

  • Byddwch yn ofalus wrth dorri gwair - gall mamaliaid bach, amffibiaid ac ymlusgiaid fod yn cuddio yn y glaswellt. Mae rhai adar yn nythu mewn dolydd mwy, felly peidiwch â thorri’r gwair tan ar ôl dechrau mis Awst.

  • Mae blodau gwyllt ar gael ar ffurf plygiau ac mewn rholiau tyweirch wedi'u plannu'n barod, a all wneud sefydlu'r planhigion yn haws fyth.

  • Ewch ati i hau cymysgedd o laswellt gwyllt a hadau blodau gwyllt.