Cafodd y wiwer goch ei chynnwys yn Atodlenni 5 a 6 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (WCA) sy’n golygu ei bod yn rhywogaeth warchodedig.
Cafodd y ddeddfwriaeth ei diwygio oddi ar hynny, yn fwyaf diweddar gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (CRoW) ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae cynnwys y rhywogaeth yn Atodlen 5 yn golygu ei bod, o dan Adran 9 y Ddeddf, yn drosedd i:
- lladd yn fwriadol, anafu neu gymryd (dal) gwiwer goch.
- difrodi neu ddinistrio yn fwriadol neu’n ddi-hid unrhyw strwythur neu le a ddefnyddir gan wiwer goch ar gyfer cysgod neu ddiogelwch, neu darfu ar wiwer goch tra fydd mewn lle o’r fath.
- meddu ar wiwer goch wyllt farw neu fyw, neu unrhyw ran o wiwer goch, oni bai y gallwch ddangos bod yr anifail wedi’i gymryd yn gyfreithlon.
- gwerthu, neu gynnig gwerthu, gwiwer goch wyllt neu unrhyw ran o wiwer goch gwyllt.
O dan Adran 11 o’r Ddeddf, mae hefyd yn anghyfreithlon i:
- Gosod trap, magl, neu ddyfais drydanol ar gyfer lladd neu lonyddu, neu unrhyw sylwedd gwenwynig, gwenwynedig neu farweiddiol; defnyddio denwr, nwy neu fwg, bwâu neu draws-bwâu, ffrwydron, arfau awtomatig neu gerbydau a yrrir trwy ddulliau mecanyddol gyda’r bwriad o wneud niwed corfforol i wiwer goch.
Mae rheoli gwiwerod llwyd yn weithred gyfreithlon ac nid oes angen trwydded. O dan Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) – mae’n anghyfreithlon rhyddhau i’r gwyllt unrhyw wiwer lwyd mewn caethiwed neu ei chaniatáu i fynd yn rhydd. Mae Deddf Mamaliaid Gwyllt (Diogelu) 1996 – yn ei gwneud yn anghyfreithlon i fod yn greulon neu gam-drin gwiwerod llwyd yn fwriadol; ac mae’r Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932 – yn ei gwneud yn drosedd cadw gwiwer lwyd mewn caethiwed, ac eithrio o dan drwydded.
Darpariaethau sylfaenol y ddeddfwriaeth yw:
- Mae’n anghyfreithlon rhyddhau gwiwer lwyd wedi’i thrapio i’r gwyllt ac mae hefyd yn anghyfreithlon cadw gwiwer lwyd mewn caethiwed.
- Rhaid i unrhyw wiwer lwyd sy’n cael ei dal gael ei difa heb ddioddefaint.
- Mae difa drwy foddi yn greulon.
- Wrth ddal gwiwerod llwyd, rhaid ymweld â thrapiau unwaith bob 24 awr, ond pan fo perygl o ddal gwiwerod coch neu rywogaethau eraill, mae’n ofyniad cyfreithiol bod trapiau yn cael eu harchwilio ddwywaith y dydd.