Canclwm Japan

Japanese Knotweed

©Philip Precey

Canclwm Japan

Enw gwyddonol: Fallopia japonica
Wedi’i gyflwyno o Japan yn y 19eg ganrif, mae canclwm Japan yn blanhigyn estron ymledol bellach ar lawer o lannau afonydd, tiroedd diffaith ac ymylon ffyrdd, lle mae’n atal rhywogaethau brodorol rhag tyfu.

Species information

Ystadegau

Height: up to 2m

Statws cadwraethol

Invasive, non-native species.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Cyflwynwyd canclwm Japan i’r DU o Japan yn y 19eg ganrif fel planhigyn gardd, ond ers hynny mae wedi sefydlu yn y gwyllt, gan ymledu ar hyd ymylon ffyrdd, glannau afonydd a thir diffaith. Mae’n chwyn ymledol sy’n tyfu’n gyflym, sy’n atal rhywogaethau brodorol eraill rhag tyfu, ac mae’n cael ei ddefnyddio yn aml i dynnu sylw at broblemau cyflwyno rhywogaethau estron. Mae llawer o sefydliadau, gan gynnwys yr Ymddiriedolaethau Natur, wedi ymrwymo i gael gwared ar y planhigyn ymledol yma er mwyn galluogi i’n bywyd gwyllt brodorol ffynnu.

Sut i'w hadnabod

Mae canclwm Japan yn blanhigyn tal iawn gyda dail trionglog mawr, coesynnau coch, gwag sy’n debyg i fambŵ, a blodau bach, gwyn, twmpathog sy'n ymddangos ar ddiwedd yr haf a'r hydref.

Dosbarthiad

Widespread.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae canclwm Japan yn cael ei adnabod hefyd fel 'Chwyn Mwnci', 'Clustiau Eliffant' a 'Rhiwbob Mul'.

Sut y gall bobl helpu

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gyda rheolwyr plâu a sefydliadau sy’n delio gyda rhywogaethau estron i ddod o hyd i’r atebion mwyaf cyfeillgar i fywyd gwyllt i rai o’n problemau bob dydd.